Another classic converted by eBooksLib.com. «Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre, yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind.»
|